NDM6352 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2017 | I'w drafod ar 27/06/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Deddf Cymru 2014 yn caniatáu ar gyfer creu trethi Cymreig newydd.
2. Yn cydnabod y bydd gofyn profi'r agwedd newydd hon ar y peirianwaith datganoli.
3. Yn croesawu ystod eang o syniadau ynglŷn â sut y gellid defnyddio'r posibiliadau cyllidol newydd hyn yng Nghymru.
Deddf Cymru 2014
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai unrhyw drethi newydd gadw at y farn a fynegwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 5 Gorffennaf 2016, "ni fydd unrhyw newid dim ond er mwyn newid."
'Datganiad Ysgrifenedig - Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru)
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud trefniadau i adolygiad annibynnol o unrhyw drethi newydd gael ei gwblhau o fewn chwe blynedd i gyflwyno'r trethi hynny.