NDM6048 - Dadl y Llywodraeth

Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 21/06/2016 | I'w drafod ar 21/06/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno:

(a) Y dylid newid ei enw i "Senedd Cymru" ar y cyfle cyntaf; ac

(b) Y dylai gael ei adnabod yn answyddogol gan yr enw hwnnw hyd nes y gall enw o'r fath gael ei ffurfioli.

TYNNWYD YN ÔL

Gwelliannau

NDM6048-1 | Wedi’i gyflwyno ar 23/06/2016 Tynnwyd yn ôl

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylai'r Cynulliad newid ei enw i adlewyrchu ei statws cyfansoddiadol fel senedd genedlaethol.

2. Yn gwahodd y Llywydd a Chomisiwn y Cynulliad i ystyried goblygiadau newid o'r fath a'r ffordd orau i'w roi ar waith.

TYNNWYD YN ÔL