NDM6335 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2017 | I'w drafod ar 14/06/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi papur gwaith Banc Lloegr, The Impact of Immigration on Occupational Wages, a'r casgliadau ynddo bod cynnydd o 10 y cant yn y gyfran o fewnfudwyr sy'n gweithio mewn swyddi lled-grefftus neu heb grefft o gwbl, yn arwain, ar gyfartaledd, at dorri 2 y cant yng nghyflogau pobl sydd mewn gwaith mewn rhanbarth benodol.
2. Yn credu:
a) y byddai gan system fewnfudo deg, wedi'i rheoli, sy'n rhoi pwyslais ar fewnfudo â sgiliau, yn sicrhau buddiannau sylweddol i economi'r DU;
b) bod sefydliadau cyhoeddus fel y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn dibynnu ar fewnfudo â sgiliau ar hyn o bryd o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ogystal ag o'r tu fewn iddo;
c) nad yw mewnfudo heb reolaeth, ac, ar y cyfan heb sgiliau, o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd, ar y lefelau presennol, yn gynaliadwy;
d) bod polisi mewnfudwyr presennol y DU yn gwahaniaethu ar ran mewnfudwyr o blaid gwladolion yr UE ar draul pobl o rannau eraill y byd.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno system gadarn ond teg o reoli mewnfudwyr:
a) nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn dinasyddion o'r tu allan i'r UE;
b) nad yw'n dyblygu o ran sylwedd na ffaith, gyfundrefn bresennol yr UE na'r EEA o ran hawl gweithwyr i symud yn rhydd; ac
c) sy'n ceisio cydbwyso mewnfudo ac ymfudo dros gyfnod o bum mlynedd.
'The Impact of Immigration on Occupational Wages: evidence from Britain'
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu bod gan Brydain a Chymru economi agored a chymdeithas groesawgar, gyda mewnfudo yn chwarae rhan sylweddol o ran cynnal a datblygu economi fodern yn yr 21ain ganrif.
2. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau y gall ein gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phrifysgolion o'r radd flaenaf barhau i recriwtio'r disgleiriaf a'r goreuon o bob cwr o'r byd.
3. Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddatblygu atebolrwydd a rheolaeth o fewn system fewnfudo'r wlad.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod dadansoddiad a gynhaliwyd gan Ganolfan Perfformiad Economaidd Ysgol Economaidd Llundain wedi dod i'r casgliad mai ychydig iawn o dystiolaeth sydd i awgrymu bod mewnfudo yn ei gyfanrwydd na mewnfudo o'r UE wedi cael effaith negyddol sylweddol ar gyflogaeth, cyflogau ac anghydraddoldeb o ran cyflogau ar y boblogaeth a anwyd yn y DU.
2. Yn credu y dylai'r hawliau a'r breintiau a roddir i ddinasyddion y DU a'r UE sy'n byw ac yn gweithio mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE ar hyn o bryd gael eu diogelu.
3. Yn credu bod angen creu Gwasanaeth Cynghori ar Fewnfudo ar gyfer Cymru ac a allai gyhoeddi fisâu penodol i Gymru er mwyn cau'r bylchau yn economi Cymru.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i warantu hawliau holl ddinasyddion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yn y DU ar hyn o bryd, ar ôl gadael yr UE.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ymgynghoriad ar sut y gallai system trwyddedau gwaith i Gymru fod o fudd i economi Cymru.
'London School of Economics' Centre for Economic Performance
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ailddatgan ei gefnogaeth i'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru a gyhoeddwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, sy'n cydbwyso swyddi a'r economi â'r angen i ymdrin â phryderon am effaith mudo ar gymunedau bregus;
2. Yn cefnogi'r dull gweithredu a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru, sef:
a) cysylltu hawl gwladolion yr Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewrop i symud i'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit â swyddi; a
b) cynyddu'r ymdrechion i atal camfanteisio ar weithwyr, yn enwedig rhai sydd ar gyflogau isel.
Diogelu Dyfodol Cymru