NDM6329 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 07/06/2017 | I'w drafod ar 07/06/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu,
'Y Darlun Mawr - Safbwyntiau cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Chwefror 2017.
2. Yn cytuno y dylai S4C, wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor i'r perwyl hwn, osod adroddiadau ariannol a datganiadau archwiliedig o gyfrifon gerbron y Cynulliad.