NDM6321 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 26/05/2017 | I'w drafod ar 26/05/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod yr adroddiad Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru wedi'i gyhoeddi.
2. Yn cytuno bod Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a Pharciau Cenedlaethol yn chwarae rhan allweddol:
a) fel lleoedd gwerthfawr ar gyfer natur ac fel lleoedd sy'n creu budd i'r cyhoedd a budd preifat drwy wahanol wasanaethau; a
b) o safbwynt rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a chefnogi cymunedau gwledig bywiog.
3. Yn cytuno bod gwerth arbennig i bob tirwedd, sydd ynghlwm wrth y syniad o fro, sydd wrth wraidd hunaniaeth cymuned a'r modd y mae llawer o bobl yng Nghymru'n mynegi eu teimlad unigryw o berthyn i le penodol."
'Tirweddau'r Dyfodol: Cyflawni dros Gymru'
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu nad yw'r adroddiad yn ymdrin ag Egwyddor Sandford fel y'i nodir yn Neddf yr Amgylchedd 1995.
'Deddf yr Amgylchedd 1995
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai unrhyw newid yn y ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu Parciau Cenedlaethol fynd trwy'r Cynulliad fel deddfwriaeth sylfaenol.