NDM6317 - Dadl y Cynulliad

Tynnwyd yn ôl Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2017 | I'w drafod ar 17/05/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod gwerth lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru i economi Cymru.

2. Yn nodi'r 5,383 o lofnodion ar ddeiseb i'r Cynulliad yn galw am ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru.

3. Yn nodi'r ymgyrch Achub Stryd Womanby sy'n galw am ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd.

4. Yn galw am i'r egwyddor o asiant dros newid gael ei wneud yn rhan o gyfraith cynllunio Cymru.

5. Yn galw am i 'ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth' ddod yn ddynodiad o dan gyfraith cynllunio Cymru.

'e-Ddeiseb Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru'

TYNNWYD YN ÔL

Gwelliannau

NDM6317-1 | Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2017 Tynnwyd yn ôl

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried manteision a pheryglon cyflwyno'r egwyddor o asiant dros newid yn rhan o gyfraith cynllunio Cymru.

NDM6317-2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/05/2017 Tynnwyd yn ôl

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried manteision a pheryglon cyflwyno "ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol" fel dynodiad cynllunio.

NDM6317-3 | Wedi’i gyflwyno ar 19/05/2017 Tynnwyd yn ôl

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio Polisi Cynllunio Cymru er mwyn:

a) gwneud yr egwyddor o asiant dros newid yn fwy amlwg wrth reoli effeithiau datblygiadau newydd; a

b) ei gwneud yn bosibl dynodi ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol ar gyfer cerddoriaeth fel bod modd eu pennu mewn Cynlluniau Datblygu Lleol perthnasol.

Polisi Cynllunio Cymru