NDM6316 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2017 | I'w drafod ar 17/05/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu ymrwymiad Prif Weinidog y DU i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn cydnabod yr angen am fargen dwf i ogledd Cymru a phwysigrwydd hyn ar gyfer ffyniant yn y rhanbarth yn y dyfodol.

3. Yn nodi pwysigrwydd datblygu bargeinion rhanbarthol tebyg ar gyfer cymunedau gwledig yng nghanolbarth Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwlad yn gweithio i bawb.

Gwelliannau

NDM6316-1 | Wedi’i gyflwyno ar 19/05/2017

Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn cydnabod blaenoriaeth frys trydaneiddio Llinell Reilffordd Arfordir y Gogledd, Prif Linell Reilffordd De Cymru a Llinellau Rheilffordd y Cymoedd a'u pwysigrwydd o ran ffyniant eu rhanbarthau perthnasol yn y dyfodol.

NDM6316-2 | Wedi’i gyflwyno ar 19/05/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud penderfyniad cadarnhaol o ran ariannu Morlyn Llanw Bae Abertawe er mwyn sicrhau twf economaidd yn yr ardal honno.

NDM6316-3 | Wedi’i gyflwyno ar 19/05/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgynghori â Chyngor Sir Penfro i ddileu tollau ar Bont Cleddau yn Sir Benfro fel hwb economaidd i'r ardal.

NDM6316-4 | Wedi’i gyflwyno ar 19/05/2017

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu rôl arwain Llywodraeth Cymru wrth iddi gydweithio â phartïon eraill i ddileu tollau ar Bontydd Hafren, a fydd yn sicrhau hwb o £100 miliwn i economi Cymru.

2. Yn nodi'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi newid ei meddwl o safbwynt cefnogi'r cynnig i ddileu tollau Pontydd Hafren.

3. Yn cydnabod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU a phartneriaid ar bob ochr i gyflawni bargen dwf i ogledd Cymru a sicrhau cysylltiadau trafnidiaeth cynaliadwy i mewn i bob rhan o Gymru.

4. Yn nodi'r ffaith mai un rhan yn unig o gynllun Llywodraeth Cymru i gynyddu twf economaidd a gwella'r system drafnidiaeth yng Nghymru yw dileu'r tollau. Mae'r cynllun hwn yn cynnwys gwaith sydd eisoes ar droed i ddatgarboneiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth, a hynny'n unol â rhwymedigaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015