NDM6311 - Dadl Aelodau

Wedi’i gyflwyno ar 11/05/2017 | I'w drafod ar 11/05/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn llongyfarch staff GIG Cymru am drin a gwella'r nifer uchaf erioed o gleifion â Hepatitis C.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau ei hymrwymiad i ddyddiad dileu Hepatitis C Sefydliad Iechyd y Byd o 2030.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried canllawiau gweithredu newydd er mwyn cefnogi'r GIG i weithio tuag at ddileu Hepatitis C yng Nghymru.