NDM6302 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 03/05/2017 | I'w drafod ar 03/05/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod angen arweinyddiaeth gryf a chadarn ar Gymru a'r Deyrnas Unedig er mwyn parhau â ffyniant economaidd y wlad.

2. Yn gresynu at gefnogaeth gyhoeddus y Prif Weinidog i gynnig i fenthyca £500 biliwn yn ychwanegol a fyddai'n peryglu dyfodol economi Cymru.

3. Yn cydnabod yr angen i ystyried costau polisïau yn llawn er mwyn sicrhau nad yw cynnydd economaidd Cymru a'r DU yn cael ei beryglu.

Gwelliannau

NDM6302-1 | Wedi’i gyflwyno ar 05/05/2017

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi y byddai Cymru a'i heconomi'n elwa fwyaf ar Lywodraeth y DU sy'n ymrwymo i fuddsoddi mewn modd teg a chynaliadwy ymhob rhan o'r wlad.

2. Yn gresynu at y ffaith y bydd cynlluniau gwario Llywodraeth bresennol y DU yn golygu bod cyllideb refeniw Llywodraeth Cymru £1 biliwn yn is mewn termau real erbyn diwedd y degawd hwn nag ydoedd ar y dechrau ac y bydd cyllidebau cyfalaf werth £200 miliwn yn llai.

3. Yn gresynu at gynlluniau Llywodraeth y DU i dorri £3.5 biliwn arall o'i chyllideb, gan y gallai olygu bod Cymru'n derbyn £175 miliwn yn llai yn 2019-20.

4. Yn nodi hanes Llywodraeth Cymru o ysgogi twf economaidd, a'r ffaith bod bron i 150,000 o swyddi wedi'u cefnogi yn ystod tymor y Cynulliad diwethaf.

5. Yn croesawu cynlluniau buddsoddi cyfalaf gwerth £7 biliwn Llywodraeth Cymru dros y pedair blynedd nesaf er mwyn cefnogi seilwaith cyhoeddus.

6. Yn nodi rhaglen lywodraethu uchelgeisiol Llywodraeth Cymru sy'n nodi cynlluniau wedi'u prisio ar gyfer:

a) Buddsoddiad ychwanegol gwerth £100 miliwn mewn ysgolion yng Nghymru;

b) O leiaf 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pobl o bob oedran;
c) Lleihad bychan yn y dreth fusnes;
d) Cronfa gwerth £80 miliwn ar gyfer triniaethau; 
e) Dyblu terfyn cyfalaf gofal preswyl; 
f) 30 awr o ofal plant am ddim ar gyfer plant tair a phedair oed y mae eu rhieni'n gweithio, 48 wythnos y flwyddyn.


Rhaglen Lywodraethu

NDM6302-2 | Wedi’i gyflwyno ar 05/05/2017

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn cydnabod yr angen i amddiffyn Cymru rhag y posibilrwydd o Lywodraeth Geidwadol ddi-hid y DU.

2. Yn credu na ellir dibynnu ar Lywodraeth Cymru na Llywodraeth y DU i amddiffyn Cymru, i hyrwyddo buddiant cenedlaethol Cymru, na chyflawni potensial economaidd y genedl.