NDM6298 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 02/05/2017 | I'w drafod ar 02/05/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil yr Undebau Llafur (Cymru).

Gosodwyd Bil yr Undebau Llafur (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Ionawr 2017.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar Fil yr Undebau Llafur (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 7 Ebrill 2017.