NDM6292 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2017 | I'w drafod ar 24/04/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cyhoeddi'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes wedi'i ddiweddaru a'r meysydd blaenoriaeth a amlinellwyd yn yr adroddiad blynyddol diweddar i:
(a) gwella safon gofal diabetes ym mhob rhan o'r system iechyd a lleihau'r amrywiaeth o ran arferion gofal;
(b) cefnogi'r sector gofal sylfaenol i reoli diabetes a chwblhau prosesau gofal allweddol;
(c) galluogi pobl sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn well a lleihau'r perygl y byddant yn cael cymhlethdodau; a
(d) defnyddio gwybodeg i sicrhau gwell integreiddio o ran gwasanaethau i bobl sydd â diabetes.
Adroddiad Blynyddol a Chynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes 2016-2020"
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mor bwysig yw rhaglenni addysg strwythuredig i helpu pobl i reoli diabetes, ac yn gresynu na all dros 50 y cant o blant a phobl ifanc cymwys gymryd rhan yn y rhaglenni hyn ar hyn o bryd.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabodmor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2. mor bwysig yw mynd i'r afael â gordewdra o ran atal diabetes math 2.