NDM6287 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 29/03/2017 | I'w drafod ar 29/03/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 12 – Cwestiynau Amserol a Chwestiynau Brys' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 29 Mawrth 2017.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i adolygu Rheolau Sefydlog 11 a 12, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.