NDM6284 - Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod
Wedi’i gyflwyno ar 28/03/2017 | I'w drafod ar 28/03/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff y GIG gomisiynu gwasanaethau gofal gan neb ond darparwyr sy'n talu'r cyflog byw.
2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:
(a) cyflwyno gofyniad i awdurdodau lleol Cymru a chyrff perthnasol y GIG ddyfarnu contractau i neb ond darparwyr gwasanaethau gofal sy'n talu'r cyflog byw i'w gweithwyr;
(b) gwella safonau cyflogau staff, gan alinio'r gyfradd fesul awr â chyfraddau gweithwyr y GIG yng Nghymru, fel sydd wedi'i bennu gan y Living Wage Foundation;
(c) gwella rhagolygon cyflogadwyedd y sector drwy gynnig gwell cyflog, lleihau costau afresymol a dibynadwyedd ar asiantau; a
(d) gwella gwerth a statws gwaith gofal i ysgogi parch cyffredin rhwng y bobl sy'n darparu gofal a'r bobl sy'n ei dderbyn.