NDM6274 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 22/03/2017 | I'w drafod ar 22/03/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac yn cydnabod y rôl allweddol sydd gan ysgolion o ran ei gyflawni.

2. Yn credu y bydd herio barn gyhoeddus leol yn cyfyngu ar y gobaith o lwyddo ac y dylai newidiadau i sefydliadau addysgol sy'n cwmpasu Cyfnodau Allweddol 1 i 5 gael eu gwneud mewn ffordd a gaiff ei chefnogi gan y mwyafrif o rieni, gwarcheidwaid neu drigolion lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau addysgol ar ran eu plant.

3. Yn credu bod angen i gynigion i newid ysgolion cyfrwng Saesneg, ysgolion dwy-ffrwd neu ysgolion pontio yn ysgolion cyfrwng Cymraeg neu eu cau gynnwys ymgynghoriad lleol gwirioneddol:

a) gyda'r holl ymatebwyr yn darparu eu henwau, cyfeiriadau a chodau post;

b) gyda'r holl unigolion a enwir mewn deiseb a gyflwynir yn cael eu cofnodi fel sylwadau ar wahân; ac

c) nad yw'n rhoi blaenoriaeth i drydydd parti, nad yw'n gysylltiedig â'r mater, dros ddymuniadau rhieni neu drigolion lleol.

4. Yn credu bod yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin cyn penderfynu cau ysgol babanod ac ysgol iau ffederal dwy-ffrwd Llangennech a'u troi'n un ysgol cyfrwng Cymraeg yn un gwallus.

5. Yn credu y dylai'r cyngor ddiddymu ei benderfyniad tra cynhelir ymgynghoriad pellach ar sail yr egwyddorion a nodir ym mharagraff 3 uchod.

Gwelliannau

NDM6274-1 | Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2017

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.

NDM6274-2 | Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod cwymp wedi bod yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith sy'n dechrau yn y proffesiwn.

NDM6274-3 | Wedi’i gyflwyno ar 23/03/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod y broses o gau ysgolion wedi cael effaith anghymesur ar ysgolion cyfrwng Cymraeg.

NDM6274-4 | Wedi’i gyflwyno ar 24/03/2017

Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi Papur Gwyn eleni er mwyn ymgynghori ar ddarpariaethau ar gyfer Bil newydd y Gymraeg fel rhan o gynlluniau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.

Yn cydnabod y buddsoddiad ychwanegol yn 2017-18 i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Cymraeg yn y gweithle a hyrwyddo'r Gymraeg.

Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adolygu proses y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Yn cydnabod bod yn rhaid i awdurdodau lleol a chynigwyr eraill gydymffurfio â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a rhaid iddynt ystyried amrywiaeth o ffactorau wrth gynnig newidiadau sylweddol i ysgolion yn eu hawdurdodaeth.

'Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

NDM6274-5 | Wedi’i gyflwyno ar 24/03/2017

Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1.

NDM6274-6 | Wedi’i gyflwyno ar 24/03/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi holl fanteision gwybyddol, addysgol, economaidd a chymdeithasol dwyieithrwydd.

NDM6274-7 | Wedi’i gyflwyno ar 24/03/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neb newid yn y blynyddoedd diwethaf.

NDM6274-8 | Wedi’i gyflwyno ar 24/03/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig.

Yn nodi bod Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin 2014-2017, a oedd yn cynnwys y penderfyniad i sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn Llangennech, wedi'i gymeradwyo'n unfrydol gan y Cabinet o dan arweiniad Llafur ym mis Gorffennaf 2014, a bod yr holl benderfyniadau dilynol wedi'u cymeradwyo gan yr awdurdodau priodol.
 
'Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Sir Gaerfyrddin 2014-2017