NDM6267 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 15/03/2017 | I'w drafod ar 15/03/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei Ymchwiliad i'r goblygiadau i Gymru yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ionawr 2017.

Nodyn: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2017.

Cyflwynwyd gan

Gwelliannau

NDM6267-1 | Wedi’i gyflwyno ar 17/03/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod yr adroddiad wedi methu ag ystyried yr agweddau cadarnhaol ar adael yr Undeb Ewropeaidd.