NDM6254 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2017 | I'w drafod ar 07/03/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno mai Senedd y DU ddylai ystyried y darpariaethau ym Mil yr Economi Ddigidol sy'n ymwneud â rhannu data, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i). Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Mawrth 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).