NDM6245 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 22/02/2017 | I'w drafod ar 22/02/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyfraniad amlwg Cymru i'r chwyldro diwydiannol, i greu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'i rôl arweiniol o ran datblygu'r ddarpariaeth addysg uwchradd.

2. Yn gresynu:

a) at ystadegau diweddar gwerth ychwanegol gros (GVA) a ryddhawyd ym mis Rhagfyr 2016 sy'n dangos mai 71 y cant o gyfartaledd GVA y pen y DU oedd GVA y pen Cymru yn 2015, sef yr isaf ymysg y gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr;

b) y bydd cleifion yng Nghymru yn aros yn sylweddol hirach i gael diagnosis a thriniaeth nag y byddent am yr un cyflyrau yn Lloegr a'r Alban; ac

c) at berfformiad diweddaraf Cymru yn Rhaglen Asesiadau Myfyrwyr Rhynglwadol 2015 Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, a oedd yn dangos bod sgorau mathemateg, darllen a gwyddoniaeth 2015 yn is nag yn 2006, ac yn is na'r cyfartaledd ar gyfer y DU.

3. Yn cydnabod:

a) rôl hanfodol addysg a sgiliau fel ysgogiad pwysig i wella lefelau cynhyrchiant economaidd Cymru;

b) yr angen am wella cyson o ran amseroedd aros Cymru ar gyfer diagnosis a thriniaeth; ac

c) potensial yr economi las a gwyrdd o ran sicrhau ffyniant economaidd Cymru yn y dyfodol.

' Gwerth ychwanegol crynswth rhanbarthol a gwerth ychwanegol crynswth isranbarthol, Rhagfyr 2016'

'OECD Programme for International Student Assessment 2015' (Saesneg yn unig)

Gwelliannau

NDM6245-1 | Wedi’i gyflwyno ar 24/02/2017

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi:

a) bod cyfradd ddiweithdra Cymru wedi gostwng i 4.4%, sy'n is na chyfartaledd y DU;

b) bod y dangosyddion ansawdd gofal iechyd a gyhoeddwyd gan yr OECD yn ddiweddar yn dangos bod Cymru'n perfformio ar lefel gyfatebol neu well na gwledydd eraill y DU o ran y rhan fwyaf o'r dangosyddion;

c) bod canlyniadau arholiadau TGAU Cymru yn 2015/16 yn dangos bod y prif fesur perfformiad wedi cynyddu bob blwyddyn ers i'r cofnodi ddechrau yn 2006-07, a bod y bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a chyrhaeddiad eu cyd-ddisgyblion yn cau.

'Dangosyddion ansawdd gofal iechyd yr OECD'