NDM6217 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2017 | I'w drafod ar 24/01/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi'i wneud mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill a'r trydydd sector i hybu mwy o gydraddoldeb yng Nghymru, fel y dangosir yn yr Adroddiad Blynyddol am Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016, a
2. Yn ailddatgan ymrwymiad y Cynulliad i wneud Cymru'n wlad decach a mwy cyfartal.
Adroddiad Blynyddol amr Gydraddoldeb 2015-2016 ac Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru am Gydraddoldeb 2016
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol. Cod Ymarfer Rhan 2, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio mewn partneriaeth â phobl i gydgynhyrchu atebion i fodloni eu canlyniadau llesiant personol.
'Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 2
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cynlluniau gweithredu effeithiol ar waith yn ymwneud â'r cynnydd o ran cydraddoldeb yng Nghymru, gydag amcanion a chanlyniadau mesuradwy wedi'u creu ar gyfer pob adroddiad yn y dyfodol.