NDM6215 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2017 | I'w drafod ar 18/01/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r tueddiad rhyngwladol i werthuso dinasoedd ar feini prawf sy'n ymwneud â'r gallu i fyw ynddynt, pa mor wyrdd ydynt a'u cynaliadwyedd.

2. Yn credu bod dinasoedd ac ardaloedd trefol yn sbardun allweddol ar gyfer gwydnwch a ffyniant economaidd.

3. Yn cymeradwyo gwerth yr amcanion a'r strategaethau canlynol o ran hybu adnewyddu ac adfywio trefol:

a) mynediad at ofod glân ac agored:

b) argaeledd tai fforddiadwy;

c) rheoli traffig yn effeithiol a darparu trafnidiaeth gyhoeddus o safon uchel;

d) datblygu llwybrau trafnidiaeth llesol, gan gynnwys ailddynodi rhai llwybrau ar gyfer beicio a cherdded;

e) safonau uchel o ran ansawdd yr aer;

f) buddsoddi yn ansawdd dylunio adeiladau cyhoeddus a nodweddiadol;

g) cynnwys dinasyddion mewn cynlluniau gwella amwynderau, o ran dinas gyfan ac ar sail cymdogaeth; a

h) bod y cysyniad o ddinas-ranbarth yn ganolog i adfywio ardaloedd cefnwlad, fel Cymoedd y De.

Gwelliannau

NDM6215-1 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi cynigion Llywodraeth Cymru yn Symud Cymru Ymlaen ar gyfer datblygu economi gryfach a thecach ac yn cydnabod pwysigrwydd y mesurau i ddatblygu economïau rhanbarthol cynaliadwy sy'n gwasanaethu pob cymuned ledled Cymru.

'Symud Cymru Ymlaen