NDM6214 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2017 | I'w drafod ar 18/01/2017

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod mai'r tro cyntaf, a'r unig dro yn aml, y daw cleifion i gysylltiad â'r GIG yw drwy bractis cyffredinol.

2. Yn gresynu bod practisau cyffredinol, er gwaethaf hyn, yn cael llai nag wyth y cant o'r gyllideb iechyd.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu practisau cyffredinol drwy roi buddsoddiad sylweddol o ran adnoddau, pobl a seilwaith.

Gwelliannau

NDM6214-1 | Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y rhan bwysig y mae gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn ei chwarae o ran sicrhau y caiff gofal sylfaenol ei ddarparu'n effeithiol.

NDM6214-2 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2017

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod bod gan y rhan fwyaf o gleifion gyflyrau cronig y gellir eu rheoli orau yn y gymuned, ac mae hyn yn galw am ofal sylfaenol cryf, gydag ymarfer cyffredinol yn ganolog i hynny.

NDM6214-3 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod cyllidebau gofal cymdeithasol wedi wynebu pwysau ariannol sylweddol, ac yn gresynu bod rôl gofal cymdeithasol o ran cyfrannu at wasanaethau gofal iechyd sylfaenol wedi cael ei diystyru.

NDM6214-4 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y meddygon teulu yn ystod y blynyddoedd diwethaf; yn nodi y bydd angen mwy o lawer o feddygon teulu i gydweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill mewn gwasanaeth gofal sylfaenol cryf; yn credu y dylai gweithwyr iechyd proffesiynol eraill ategu a chefnogi'r gwasanaeth a gaiff ei ddarparu gan feddygon teulu, ac na ddylid eu defnyddio i wneud y gwaith yn eu lle.

NDM6214-5 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod llawer o feddygon teulu wedi dewis dod i weithio yng Nghymru o'r tu allan i'r DU, ac y gallent ddewis gadael os yw'r drwgdeimlad parhaus tuag at weithwyr mudol yn parhau.

NDM6214-6 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2017

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal sylfaenol, gofal eilaidd, a gofal cymdeithasol yn cydweithio i gynorthwyo cleifion i reoli eu cyflyrau yn y gymuned, gan ganolbwyntio ar atal derbyniadau ysbyty; gan gydnabod y bydd angen cynllunio hirdymor priodol ar gyfer hyn, buddsoddi mewn seilwaith a pholisïau ehangach o du'r llywodraeth i hybu iechyd da.

NDM6214-7 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2017

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi data perfformiad rheolaidd ar gyfer gofal sylfaenol, gyda dangosyddion perfformiad a thargedau yn cael eu sefydlu mewn cydweithrediad â gweithwyr iechyd proffesiynol.

NDM6214-8 | Wedi’i gyflwyno ar 20/01/2017

Dileu'r cyfan ar ôl Pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal sylfaenol ledled Cymru a'r ymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth â meddygon teulu a gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol eraill i wella gofal ar gyfer pobl ym mhob rhan o Gymru.