NDM6209 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2017 | I'w drafod ar 11/01/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn credu:
a) y dylai'r Grid Cenedlaethol ddefnyddio ceblau o dan y ddaear neu o dan y môr neu ddewisiadau amgen eraill i gario trydan drwy Barciau Cenedlaethol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru lle bo hynny'n ymarferol;
b) y dylai fod rhagdybiaeth o blaid ceblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill yn hytrach na pheilonau trydan mewn unrhyw ddatblygiadau newydd neu gyfredol yng Nghymru gan y Grid Cenedlaethol; ac
c) y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli gan geblau o dan y ddaear neu ddewisiadau amgen eraill.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Yn is-bwynt (b) dileu 'y dylai fod rhagdybiaeth o blaid' a rhoi yn ei le 'y dylid ffafrio'.
Cyflwynwyd gan
Yn is-bwynt (c) dileu 'y dylid gwneud astudiaeth ddichonoldeb o'r posibilrwydd o gael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli' a rhoi yn ei le 'Y dylai Ofgem ymrwymo i gynnal ac estyn y prosiect Darpariaeth Effaith Weledol i Gymru er mwyn cael gwared ar y peilonau presennol a'u disodli'.