NDM6208 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 11/01/2017 | I'w drafod ar 11/01/2017Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Brif Weinidog Cymru - yn absenoldeb unrhyw ymyrraeth gan Lywodraeth y DU - i gwrdd â Chadeirydd dros dro Tata Steel i wella telerau'r cytundeb a gynigir gan isadran y cwmni yn y DU i weithwyr dur yng Nghymru; ac y dylai cynnig diwygiedig o'r fath gynnwys ymrwymiadau cyfrwymol ac ysgrifenedig ar gyflogaeth, buddsoddi a diogelu hawliau pensiwn cronedig.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon â diddordeb i baratoi strategaeth arall pe byddai'r cynnig presennol yn cael ei wrthod gan y gweithlu dur yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd strategol ac allweddol y diwydiant dur i Gymru a'i heconomi.
2. Yn croesawu'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi er mwyn helpu i sicrhau bod dur yn parhau i gael ei gynhyrchu a bod swyddi dur yn cael eu cadw ar holl safleoedd TATA yng Nghymru.
3. Yn nodi'r trafodaethau diweddar rhwng undebau llafur a TATA ynghylch pensiynau ac yn cydnabod mai penderfyniad i'r gweithwyr fydd unrhyw newidiadau i'r cynllun pensiwn drwy bleidlais ddemocrataidd ac na ddylai fod unrhyw ymyrraeth wleidyddol.
4. Yn annog TATA i egluro'n glir ac yn fanwl i'r gweithwyr oblygiadau'r cytundeb y maent wedi cytuno arno.
5. Yn nodi'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi arwain trafodaethau ag uwch reolwyr TATA dros y misoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod hawliau'r gweithwyr yn cael eu diogelu ac y bydd y trafodaethau hynny'n parhau dros yr wythnosau nesaf.
6. Yn cydnabod y ffaith y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i ddiogelu gweithwyr, eu swyddi ac i sicrhau diwydiant dur cynaliadwy yng Nghymru.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cytuno â gweithwyr ac undebau o weithfeydd dur Tata ym Mhort Talbot na ddylai gwleidyddion fod yn ceisio dylanwadu ar weithwyr ynghylch y cynnig arfaethedig i gadw'r gweithfeydd ar agor.
2. Yn credu ei bod hi'n hanfodol bod gweithwyr yn cael yr amser a'r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniad ar y cynigion ar sail gwybodaeth.
Cyflwynwyd gan
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi sylwadau'r Prif Weinidog ar y cynnig i weithwyr Tata Steel a'i effaith ar ddyfodol hirdymor y diwydiant dur yng Nghymru.
2. Yn cydnabod rôl Llywodraeth y DU o ran cefnogi'r diwydiant dur drwy gyflwyno'r rheolau newydd ar gaffael cyhoeddus a thrwy gynyddu cymorth ynghylch costau ynni, gan sicrhau arbedion o £400 miliwn i'r diwydiant erbyn diwedd tymor Senedd bresennol y DU.
3. Yn cydnabod mai dyma'r unig gynnig sydd ar gael i weithlu Tata Steel ar hyn o bryd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn barod i weithio gyda Llywodraeth y DU, Undebau a phartïon eraill sydd â diddordeb i ddatblygu strategaeth amgen pe digwydd i'r cynnig hwn gael ei wrthod.