NDM6201 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 10/01/2016 | I'w drafod ar 10/01/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil Cyflenwadau Meddygol (Costau) y Gwasanaeth Iechyd sy'n ymwneud â chael a rhannu gwybodaeth am gynhyrchion y gwasanaeth iechyd i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
Bill documents — Health Service Medical Supplies (Costs) Bill 2016-17 — UK Parliament