NDM6188 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 07/12/2016 | I'w drafod ar 07/12/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi perfformiad Cymru yn Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr 2015 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2016.
2. Yn gresynu bod sgoriau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth yn is yn 2015 nag yn 2006.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth glir â thargedau mesuradwy ac amserlen glir i sicrhau gwelliant yn PISA 2018.
'Canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr - y DU'
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn credu bod hyn o ganlyniad i 16 mlynedd o bolïsau addysg annigonol Llafur.au addysg annigonol Llafur.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog y Llywodraeth i wneud diwygiadau i'r cwricwlwm, addysg gychwynnol athrawon a datblygiad proffesiynol athrawon.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi sylwadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dilyn ei ymweliad i adolygu'r system addysg yng Nghymru, sef bod nifer o bethau wedi'u rhoi ar waith bellach sy'n rhoi Cymru ar drywydd mwy addawol.
Yn cydnabod bod yn rhaid rhoi pwyslais ar arweinyddiaeth, rhagoriaeth ym maes addysgu, a thegwch a lles ar gyfer dysgwyr er mwyn gwella safonau.