NDM6184 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2016 | I'w drafod ar 06/12/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, sy'n ymwneud â gwahardd cyflogwr perthnasol rhag gwahaniaethu yn erbyn person sy'n gwneud cais am swydd gofal cymdeithasol i blant am ei bod yn ymddangos i'r cyflogwr bod yr ymgeisydd wedi gwneud datgeliad gwarchodedig, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
Bill documents — Children and Social Work Bill [HL] 2016-17 — Senedd y DU