NDM6183 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2016 | I'w drafod ar 06/12/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Tachwedd 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

Criminal Finances Bill 2016-17 — Senedd y DU