NDM6181 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 30/11/2016 | I'w drafod ar 30/11/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn Lloegr.
2. Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cymryd camau i ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban;
(b) cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan sicrhau na ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar:
(i) tenantiaid, drwy godi rhenti artiffisial uwch; a
(ii) landlordiaid preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu rhentwyr ar yr ysgol eiddo.
Cyflwynwyd gan
Cyd-gyflwynwyr
Gwelliannau
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â manteisio ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffioedd gormodol gan asiantau gosod.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor cyfreithiol yn awgrymu y byddai Bil ar wahardd ffioedd gormodol asiantau y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei gyhoeddi.
Cyflwynwyd gan
Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu lle:
(a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes hwn weithio yng ngoleuni
tystiolaeth ar effaith dileu'r ffioedd hyn yn yr Alban a'r ymatebion i'r ymgynghoriad yn Lloegr.
(b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad, a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru.