NDM6179 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 29/11/2016 | I'w drafod ar 29/11/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2017-2018 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar 18 Hydref 2016.

'Cynigion Cyllideb Ddrafft 2017-18'

Gwelliannau

NDM6179-1 | Wedi’i gyflwyno ar 01/12/2016

Dileu pob dim a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu nad yw Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 yn diwallu anghenion pobl Cymru.