NDM6175 - Dadl y Llywodraeth
Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2016 | I'w drafod ar 22/11/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru "Adfer cydbwysedd i ofal iechyd - Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol".
'Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2015-16 gan Brif Swyddog Meddygol Cymru'
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
NDM6175-1 | Wedi’i gyflwyno ar
24/11/2016
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod mynychder iechyd gwael mewn cymunedau tlotach, fel y nodir yn yr adroddiad, yn cael ei achosi gan amodau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach ac na ellir ei feio'n unig ar ddewisiadau gwael a wneir gan unigolion, ac y dylai polisïau iechyd cyhoeddus adlewyrchu cyfrifoldeb y llywodraeth i fynd i'r afael â hyn, yn hytrach na chanolbwyntio ar ddim ond pregethu wrth bobl.