NDM6173 - Dadl y Llywodraeth

Wedi’i gyflwyno ar 22/11/2016 | I'w drafod ar 22/11/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol sy'n ymwneud ag asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Hydref 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).

Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:

'Bill documents — Children and Social Work Bill [HL] 2016-17 — UK Parliament'