NDM6171 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2016 | I'w drafod ar 16/11/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu at y bwlch rhwng y gweithwyr a gaiff y cyflog uchaf a'r gweithwyr a gaiff y cyflog isaf yn awdurdodau lleol Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach.

2. Yn nodi llwyddiant Plaid Cymru o ran gorfodi Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r Ddeddf Democratiaeth Leol yn ystod y Pedwerydd Cynulliad i gynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch swyddogion drwy sefydlu panelau taliadau annibynnol.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

(a) deddfu i gyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu'n genedlaethol, i reoli cyflogau uwch swyddogion a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau tegwch i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus yng Nghymru; a

(b) diffinio rôl prif weithredwyr awdurdodau lleol mewn deddfwriaeth a fyddai'n cynnwys diddymu taliadau ychwanegol i swyddogion cynghorau ar gyfer dyletswyddau swyddog canlyniadau.

'Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013'

Gwelliannau

NDM6171-1 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2016

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn nodi gofynion y Ddeddf Democratiaeth Leol, sy'n cynnwys mesurau sydd wedi gwella tryloywder o ran sut y penderfynir ar gyflog uwch-swyddogion drwy ehangu pwerau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

NDM6171-2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2016

Ym mhwynt 3, dileu is-bwynt 3 (a) a rhoi yn ei le:

gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol i ddatblygu fframwaith cenedlaethol a fyddai'n sicrhau cyflog teg i weithwyr y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru; a
 

NDM6171-3 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2016

Dileu pwynt 2, a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod cynigion y Ceidwadwyr Cymreig, a oedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cyfyngiad gorfodol ar gyflogau deiliaid swyddi uwch i sicrhau bod awdurdodau lleol yn gorfodi uchafswm effeithiol ar gyflogau.

NDM6171-4 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2016

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried deddfwriaeth a gyflwynwyd yn awdurdodaethau eraill y Gymanwlad, sydd wedi corffori cyfrifoldebau prif weithredwyr llywodraeth leol yn y gyfraith, fel Adran 94 A o Ddeddf Llywodraeth Leol Awstralia 1989'Australian Local Government Act 1989

NDM6171-5 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2016

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi'r dystiolaeth a glywodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pan alwodd rhanddeiliaid am gydberthyniad rhwng cyflog uwch reolwyr a pherfformiad y sefydliad, fel dangosydd allweddol o sicrhau gwerth am arian.
 
'Trawsgrifiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: 13 Mai 2014

NDM6171-6 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi ymhellach dystiolaeth y Gymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch Reolwyr Awdurdodau Lleol i Ymchwiliad Pwyllgor Dethol Llywodraeth y DU ar Gymunedau a Llywodraeth Leol i Dâl Prif Swyddogion Llywodraeth Leol ym mis Ionawr 2014, a oedd yn cydnabod bod nifer o awdurdodau lleol wedi dechrau rhannu prif weithredwyr a thimau uwch reoli ers 2010 er mwyn gweithredu arbedion costau ymhellach.
 
'Local Authority Chief Executives and Senior Managers' submission to the UK Government's Communities and Local Government Select Committee Inquiry into Local Government Chief Officer Remuneration