NDM6170 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 16/11/2016 | I'w drafod ar 16/11/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod y diwydiant manwerthu yn cyflogi 130,000 o bobl yng Nghymru, ac yn gwneud cyfraniad allweddol i economi Cymru.

2. Yn nodi mai cyfradd y siopau gwag yng Nghymru yw 14 y cant, a bod y gyfradd a ragwelir o ran cau siopau yn uwch yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU dros y ddwy flynedd nesaf.

3. Yn gresynu nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio mesurau arloesol a chefnogol i gynorthwyo busnesau wrth bontio i drefniadau ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio, gan adael busnesau Cymru i wynebu ardrethi uchel, ynghyd â system o ad-daliadau dros dro, a phroses araf o apeliadau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £12,000, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i'r rhai sydd â gwerth ardrethol o hyd at £15,000;

b) gweithredu ffordd ragweithiol o ddiwygio'r system ardrethi busnes hynafol mewn ffordd radical, a gwneud Cymru yn genedl flaengar o ran mynd i'r afael â'r angen i ddarparu amgylchedd busnes mwy cefnogol; ac

c) rhoi cap ar unwaith ar y lluosydd, a chynllun wedi'i amserlennu ar gyfer gostyngiad graddol mewn ardrethi.

Gwelliannau

NDM6170-1 | Wedi’i gyflwyno ar 17/11/2016

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ehangu'r cymorth pontio sydd ar gael i fusnesau bach y mae gwaith ailbrisio ardollau annomestig 2017 wedi effeithio arnynt;

b) dileu ardrethi busnes ar gyfer pob busnes sydd â gwerth ardrethol o hyd at £10,000 y flwyddyn, a rhoi cymorth sy'n lleihau'n raddol i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £10,000 ac £20,000;

c) eithrio pob busnes rhag talu unrhyw ardrethi yn ystod eu blwyddyn gyntaf o fasnachu, er mwyn annog dechrau busnesau newydd;

d) cyflwyno lluosydd hollt ar gyfer busnesau bach a mawr fel yn yr Alban a Lloegr; ac

e) archwilio disodli ardrethi busnes yn gyfan gwbl gan ffurfiau eraill o drethi nad ydynt yn rhwystro cyflogaeth, adfywio canol trefi a buddsoddi mewn gwaith a pheiriannau.

 

NDM6170-2 | Wedi’i gyflwyno ar 18/11/2016

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

Yn ailddatgan annibyniaeth Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn dilyn datganoli ardrethi annomestig i Gymru.

Yn nodi nad diben gwaith ailbrisio Asiantaeth y Swyddfa Brisio yw codi refeniw ychwanegol ac er bod rhai gwerthoedd ardrethol wedi cynyddu at ei gilydd maent wedi lleihau.

Yn nodi'r canlynol gan Lywodraeth Cymru:

a) penderfyniad i estyn y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ar gyfer 2017-18, gan leihau'r dreth y mae 70,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn ei thalu;

b) penderfyniad i sefydlu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn gynllun parhaol o 2018, gan roi sicrwydd i fusnesau bach y bydd y lleihad yn eu treth yn parhau;

c) ymrwymiad i adolygu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach er mwyn ei wneud yn gynllun symlach a thecach i fusnesau yng Nghymru;

d) penderfyniad i gyflwyno cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10 miliwn ym mis Ebrill 2017 er mwyn cynnig cymorth ychwanegol i fusnesau bach sy'n elwa ar y cynllun Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach ac y mae'r gwaith ailbrisio wedi effeithio arnynt.