NDM6140 - Dadl y Cynulliad
Wedi’i gyflwyno ar 09/11/2016 | I'w drafod ar 09/11/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y cyfraniad pwysig a gwerthfawr a wneir i gymdeithas Cymru gan bobl hŷn.
2. Yn credu bod pobl hŷn yn haeddu urddas a pharch, yn ogystal ag annibyniaeth a'r rhyddid i wneud penderfyniadau am eu bywydau eu hunain.
3. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i roi sicrwydd i bobl hŷn drwy roi cap ar gostau a diogelu £100,000 o asedion ar gyfer y rhai sydd mewn gofal preswyl i sicrhau nad yw pobl yn colli eu cynilion oes a'u cartrefi i gostau gofal.
4. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ar ddementia a gafodd ei gynhyrchu gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn tynnu sylw at yr anawsterau a gaiff pobl sydd â dementia o ran cael gafael ar wybodaeth, cymorth a gwasanaethau a all wneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) Cyflwyno Bil Hawliau Pobl Hŷn, i ehangu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn;
(b) Rhoi dyletswydd ar gyrff y sector cyhoeddus i ymgynghori â phobl hŷn wrth wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau; ac
(c) Sicrhau mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU sy'n ystyriol o ddementia.
'Adroddiad Dementia'
Cyflwynwyd gan
Gwelliannau
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu'r terfyn cyfalaf i £50,000, a fydd yn galluogi rhagor o bobl yng Nghymru i gadw rhagor o'u hasedau pan fyddant yn symud i ofal preswyl.
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at yr oedi parhaus gan Lywodraeth y DU o ran diwygio'r trefniadau ar gyfer talu am ofal.
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:
Yn nodi:
a) bod Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi awgrymu Bil Hawliau Pobl Hŷn i Gymru;
b) bod Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r egwyddor o Fil;
c) y bydd Llywodraeth Cymru'n cymryd camau pellach i wneud Cymru'n wlad sy'n ystyriol o ddementia drwy ddatblygu a gweithredu cynllun dementia cenedlaethol newydd.
Cyflwynwyd gan
Dileu is-bwynt 5a) a rhoi yn ei le:
'cefnogi gwaith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o weithio tuag at ymestyn a hyrwyddo hawliau pobl hŷn;'
Cyflwynwyd gan
Dileu pwynt 5b) a rhoi yn ei le:
'cefnogi Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o ran sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed mewn perthynas â chynllunio gwasanaethau cyhoeddus;'
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'adeiladu rhagor o dai â chymorth er mwyn ehangu dewis ac ategu gofal preswyl a sefydliadol.'
Cyflwynwyd gan
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
'gweithio gyda chomisiynwyr yr heddlu a throseddau ac awdurdodau lleol i ddiogelu pobl hŷn rhag sgamiau, cam-werthu a ffyrdd eraill o ymelwad ariannol .'