NDM6134 - Dadl y Cynulliad

Wedi’i gyflwyno ar 02/11/2016 | I'w drafod ar 02/11/2016

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

2. Yn gresynu bod canran y dysgwyr saith oed sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg heb newid yn y blynyddoedd diwethaf.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar draws pob sector addysg fel rhan ganolog o'i strategaeth i gyrraedd y targed hwn.

Gwelliannau

NDM6134-1 | Wedi’i gyflwyno ar 04/11/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda busnesau i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu a'i defnyddio yn y gweithle.

NDM6134-2 | Wedi’i gyflwyno ar 04/11/2016

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda busnesau i wella'r ffordd y mae'r Gymraeg yn cael ei dysgu a'i defnyddio yn y gweithle.