NDM6122 - Dadl Aelodau
Wedi’i gyflwyno ar 13/10/2016 | I'w drafod ar 13/10/2016Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r Adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2016
2. Yn cymeradwyo gwaith y sefydliadau cadwraeth ac ymchwil sydd wedi cynhyrchu'r adroddiad
3. Yn pryderu am y canfyddiadau sy'n nodi:
a) bod 56 y cant o'r rhywogaethau a astudiwyd wedi dirywio ledled y DU dros y 50 mlynedd diwethaf
b) bod un o bob 14 rhywogaeth yng Nghymru bron â darfod
c) bod 57 y cant o blanhigion gwyllt, 60 y cant o löynnod byw a 40 y cant o adar yn dirywio
d) bod dros draean o rywogaethau fertebrat a phlanhigion morol (sy'n hysbys i ni) wedi prinhau, gyda thri chwarter o rywogaethau infertebrat morol yn dirywio ledled y DU.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod gwyrdroi'r dirywiad yn ein bioamrywiaeth yn ganolog i bolisïau rheoli cynaliadwy.
'Adroddiad Sefyllfa Byd Natur Cymru 2016'